LLYTHYR AGORED

I LYWODRAETH CYMRU, CYMRU GREADIGOL A’R CYNGOR LLYFRAU CYMRU
I ACHUB CYLCHGRONAU A GWEFANNAU CYMREIG

MIS AWST 2023

Yn ddieithriad, ers dechrau datganoli chwarter canrif yn ôl, mae pob adolygiad o’r dirwedd ddiwylliannol neu wleidyddol yng Nghymru wedi sôn am brinder ein cyfryngau. Am lawer o resymau hanesyddol, sy’n cael eu hailadrodd yn aml, bu cynnal sector cyfryngau annibynnol hyfyw yng Nghymru yn dasg affwysol o anodd.

Ers degawdau, mae swm hynod fychan – dim ond cyfran fechan iawn o’r holl gyllid a gaiff ei wario ar ddiwylliant – wedi mynd ymhell iawn. Mae wedi helpu i feithrin cysylltiadau diwylliannol mewn byd cyhoeddus rhanedig, ac i ysgogi deialog hanfodol, gan baratoi’r ffordd at ddatblygiad gwleidyddol a chysyniadol y genedl. Mae'r buddsoddiad hwn wedi helpu i feithrin cyhoeddiadau a chyfnodolion yn y ddwy iaith genedlaethol, rhywbeth sydd wedi ennyn sylw a chryn barch ymhell y tu hwnt i Gymru.

Er gwaethaf y cyfyngiadau ariannol, mae'r sector cylchgronau a chyfnodolion yng Nghymru – sector bychan sydd hefyd yn derbyn cymorthdaliadau – wedi datblygu'n fodel o arfer da. Mae’r cyhoeddiadau hyn wedi esblygu'n fusnesau bychain unigryw a deinamig, rhai blaengar eu golygon sy'n cynnal gwerthoedd moesegol uchel.  O ran eu strwythur, maent yn ymdrechu i weithredu'n annibynnol ar ddylanwadau diangen, boed gan noddwr, cyllidwr neu'r wladwriaeth, a hynny er mwyn gwrthsefyll a gwrthwynebu grym ac er mwyn cynnig naratifau amgen. Mae’r cyfnodolion yn dibynnu ar dimoedd ffyddlon ac ymroddedig o staff, gweithwyr llawrydd a chyfranwyr sy'n fodlon mynd y filltir ychwanegol er mwyn rhagoriaeth.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fodd bynnag, mae'r filltir ychwanegol honno wedi mynd yn anghynaliadwy o hir. Mae lefelau grantiau, sy’n gwaethygu'n gyson, a’r amodau cyllido llymach, bellach wedi mynd yn beth cyffredin, gan greu cynsail sydd wedi arwain at ‘gystadleuaeth tua’r gwaelod’ o ran amodau gwaith a chyflogaeth, yn ogystal â ffioedd isel i gyfranwyr. Mae hyn yn effeithio ar y rheini sydd eisoes yn gweithio yn y sector ar hyn o bryd, ond hefyd ar y sawl fydd yn cychwyn yn y maes.

Bedair blynedd yn ôl, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Gwaith Teg Cymru. Dyma ymrwymiad manwl i amodau cyflogaeth teg, a dyma sut y'u diffiniwyd:

Cael eich gwobrwyno’n deg; llais y cyflogedig a chynrychiolaeth gyfunol; diogelwch a hyblygrwydd; cyfle ar gyfer mynediad, twf a dilyniant; cyd-destun gweithio diogel, iach a chynhwysol; parchu hawliau cyfreithiol a'u rhoi ar waith go iawn.

Ar ben hynny, argymhellodd yr adroddiad

y dylid ond rhoi arian cyhoeddus i’r sefydliadau hynny sy'n cyflawni, neu'n gweithio tuag at gyflawni, ein diffiniad o waith teg yn ogystal â nodweddion y rhain (sef, y sefydliadau sy’n bodloni safon Gwaith Teg Cymru).

Mae'n anodd gweld sut mae'r amodau gwaith presennol sy'n nodweddu llawer o'r busnesau bychain hyn yng Nghymru yn cyflawni uchelgais eu ffynhonnell gyllido waelodol, nid oherwydd unrhyw fai ar y busnesau eu huanin ond yn benodol oherwydd y toriadau a gafwyd, un ar ôl y llall, yn y cyllid ers 2008. Yn achos un o’r cylchgronau hyn, sef Planet: The Welsh Internationalist, y cyfnodolyn uchel ei barch a sefydlwyd ym 1970, mae ei gyllid craidd bellach yn llai na hanner yr hyn ydoedd cyn datganoli, a hynny heb ystyried chwyddiant. Mewn achosion eraill, mae cyhoeddiadau cyfredol yn aml yn derbyn yr un lefel cyllid ag a gawsant flynyddoedd yn ôl, er gwaethaf y costau sy’n cynyddu fwyfwy; ac o'r cychwyn cyntaf, nid yw cyhoeddiadau newydd wedi derbyn lefelau grant hyfyw. Nid yw'r gostyngiadau mewn cyllid yn ymateb i angen na pherfformiad. Yn hytrach, maent yn digwydd yn bennaf o ganlyniad i’r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi camddehongli rheoliadau cymorth gwladwriaethol y Comisiwn Ewropeaidd, a hynny cyn cyfnod Brexit. Parhau a wna’r sefyllfa hon, er i bennaeth Swyddfa'r Comisiwn Ewropeaidd yng Nghymru a'i gydweithiwr yn y Gyfarwyddiaeth Gyffredinol dros Gystadleuaeth ym Mrwsel ddod i'r casgliad y dylai cylchgronau o'r fath fod wedi eu heithrio o'r rheoliadau hyn o’r dechrau.

Yn ei cholofn olygyddol yn rhifyn Tachwedd 2022 o'r cylchgrawn Planet, sy’n dadlau dros amodau cyllido gwell ar gyfer pob cylchgrawn a gwefan yng Nghymru, mae golygydd a chyfarwyddwr bwrdd Planet Emily Trahair yn egluro sut ei bod, er cael ei thalu i weithio dim ond 27 awr yr wythnos, yn gweithio rhwng 40 a 70 awr yr wythnos, “and occasionally well over 80 … necessitated by the grant franchises and cuts”. Yn ystod y degawd diwethaf, mae amodau'r grantiau wedi mynnu bod cyhoeddiadau’n codi swm penodol o incwm ychwanegol er mwyn derbyn y cyllid craidd (llai) hwn. Nid oes gan gyhoeddwyr ddiffyg arbenigedd ynghylch sut i fynd i’r afael â hyn. Yn hytrach, y broblem yw’r oriau di-dâl sydd eu hangen i roi’r gweithgareddau hyn ar waith, ar draul enbyd lles y staff.

Mae'r sefyllfa a amlinellwyd gan Emily Trahair yn debyg i'r hyn y mae llawer o gyhoeddiadau eraill a ariennir yn ei wynebu. Nodir ganddi fod holl staff cylchgrawn Planet wedi derbyn yr un cyflog yr awr (£12) ers 2012; ond ar ben hynny, heb gynnydd sylweddol iawn yn y grant, mae'n amhosib darparu pensiynau llawn, taliadau salwch statudol, neu yn y rhan fwyaf o achosion, oriau gwaith addas ar gyfer rhiant, gofalwr neu rywun sy'n gwella yn sgil salwch. Gan fod costau’n cynyddu, mae bellach yn anos nag erioed i gyhoeddiad gynnal cyllideb gytbwys. Er bod ymdrechion Cyngor Llyfrau Cymru i lobïo Llywodraeth Cymru am well cyllid i’w croesawu’n fawr, megis y cyllid brys yn 2023 i fynd i’r afael, yn y tymor byr, yn rhannol â’r argyfwng costau byw, mae’n rhaid i bob corff sy’n gyfrifol am ddarparu grantiau gydnabod nad yw'r setliad presennol yn gynaliadwy.

Mae'n fater o frys bod y sefyllfa hon yn gwella ar fyrder. Mae'n hanfodol cynyddu lefelau cyllid craidd cylchgronau a gwefannau. Gwneud hynny yw polisi datganedig gweinyddiaeth bresennol y Senedd. Mae Cytundeb Cydweithio Rhagfyr 2021 rhwng llywodraeth Lafur a Phlaid Cymru yn mynegi hyn yn glir:

Fel ymyrraeth gychwynnol, byddwn yn rhoi buddsoddiad ychwanegol i ddatblygu mentrau presennol a newydd sy’n ceisio gwella newyddiaduraeth yng Nghymru ac i gefnogi cyfryngau yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â’r bylchau mewn gwybodaeth.

Byddai cyllid craidd cynaladwy yn gymorth i fynd i’r afael â’r bylchau mewn gwybodaeth, ac yn golygu bod cyhoeddiadau yn gallu cyrraedd mwy na chyfran hynod fechan o’u darpar ddarllenwyr; ar ben hynny, byddai'n golygu bod modd sicrhau amodau gwaith moesegol, bod y sector yn llawer mwy agored i’r sawl sy’n cyrraedd y maes o gefndiroedd anhraddodiadol, ac yn cyflawni llawer o mwy o'r uchelgais fawrfrydig sydd ynghlwm wrth strategaeth Gwaith Teg Cymru.

Drwy gydol y ganrif hon, wrth reswm, mae llawer o’r pwyslais wedi symud i'r maes digidol. Mae’r llu o wefannau newyddion, diwylliant a materion cyfoes Cymreig ar-lein yn dyst i hyder a hunanfynegiant cenedlaethol newydd, un y mae’r cyfryngau print heb os wedi braenaru’r tir ar ei gyfer. Mae’n bwysig bod arian cyhoeddus yn cael ei fuddsoddi mewn cyhoeddiadau ar-lein ac amlgyfrwng, oherwydd heddiw dyma’r ffordd y byddwn yn dod o hyd i gymaint o’r newyddion a’r safbwyntiau a ddarllenwn, ond daw gwerth y cyfryngau print yn fwyfwy clir a chefnogaeth ddigonol ar eu cyfer yn fater o frys cynyddol.

Mae cyhoeddiadau print sy'n cyhoeddi darnau hir yn bodoli o hyd. Mae safon y deunydd print hwn yn golygu bod iddo werth parhaol: mae darllenwyr yn cadw copïau o gylchgronau gwleidyddol a diwylliannol at y dyfodol. Dyma adnodd hollbwysig ym myd addysg, llyfrgelloedd ac archifau yng Nghymru a ledled y byd, sy'n croniclo hanes cenedl sy’n bythol newid. Mae ysgrifenwyr yn gwybod gwerth hyn i’r dim. Yn bwysicach fyth, mae profiadau pobl yn newid. Rydym yn darllen print mewn ffordd wahanol. Yn aml, bydd geiriau’n cael eu saernïo’n fwy gofalus, a’u darllen yn fwy gofalus hefyd. Bymtheg mlynedd yn ôl, aeth cyhoeddwyr llyfrau i banig mawr gan eu bod o’r farn bod eu model busnes yn prysur ddiflannu. Y gwrthwyneb sydd wedi digwydd ac mae mwy o siopau llyfrau annibynnol nag erioed o’r blaen. Mae angen cyhoeddiadau print a digidol ar bobl. Yn wir, mae natur cyfryngau print a digidol yn cyfateb yn dda i’w gilydd, ond eto’n wahanol, a hynny'n cael ei hadlewyrchu yn y ffaith bod y rhan fwyaf o gyhoeddiadau print yng Nghymru’n cynnig rhifynnau digidol a chynnwys ar-lein.

Yn aml gall gymryd degawdau i feithrin prosiectau sydd o werth diwylliannol gwirioneddol, ond gellir eu colli ar amrantiad. Yng Nghymru, rydym yn dyheu am wneud pethau’n wahanol, am wneud pethau’n well na model San Steffan, sy’n cael ei wthio’n ei flaen gan feddylfryd 'caledi'. Mae’n rhaid i hyn olygu rhywbeth, ac yn achos cyllid ar gyfer cylchgronau, cyfnodolion a gwefannau, mae’n rhaid iddo olygu ein bod yn cyhoeddi eu gwerth mewn ffordd ddiflewyn-ar-dafod a bod hyn, yn ei hanfod, yn llawer iawn mwy na’r cyllid cyhoeddus ynghlwm wrtho. Os methwn â herio’r uniongrededd truenus a thrist, a hynny’n ddeallusol yn ogystal ag yn faterol, byddwn wedi methu’r genedl.

• Galwn ar bob corff sy'n gyfrifol am gyllido cylchgronau a gwefannau – Llywodraeth Cymru, Cymru Greadigol a Chyngor Llyfrau Cymru – i ddod ynghyd i gydlynu ymdrechion i wella cyllid craidd, a hynny fel mater o frys.
• Dylid cynyddu'r cyllid craidd ar gyfer pob cylchgrawn a gwefan sy'n llwyddiannus yng ngalwad nesaf y grantiau ar gyfer cylchgronau Saesneg eu hiaith, a hynny fesul cyhoeddwr hyd at lefel sy'n caniatáu amodau gwaith moesegol ar gyfer pob un gweithiwr a gyflogir, ar gyfer gweithwyr llawrydd a chyfranwyr, ac yn gyfnewid am greu cynnwys rhagorol; a dylid hefyd rhoi hwb i gyllid craidd cylchgronau a gwefannau Cymraeg eu hiaith. Dylai pob targed ac amod ariannu gynnwys yr oriau â thâl sydd eu hangen i gyflawni´r cyfryw waith, sy'n aml yn gymhleth i'w gyflawni i safon uchel.
• Dylai setliad cyllido teg newydd ar gyfer cylchgronau a gwefannau ddod i rym ar sail y cyllid craidd a gytundebir ar gyfer cyfnod cytundeb y grantiau Saesneg nesaf, ac yn yr un modd ar gyfer gweddill cyfnod cytundeb presennol y grantiau Cymraeg: nid yw cyllid ad hoc yn ddigonol i gylchgronau oroesi. Ni fyddai hwb yn sgil cyllid prosiectau atodol yn unig, a fyddai ynghlwm wrth flaenoriaethau polisi allanol, yn ogystal ag ymyrraeth ddiangen trwy dargedau (y tu hwnt i fonitro angenrheidiol), yn diwallu anghenion cyfryngau llawr gwlad a ddylai, er iechyd ein democratiaeth, barhau’n strwythurol annibynnol ar y wladwriaeth a chyrff cyllid.

Yn gywir,

Yn gywir,
1.         Mike Parker
2.         Michelle Stanistreet, Ysgrifennydd Cyffredinol, Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr/NUJ)
3.         Christopher Meredith, ar ran grŵp llywio Cymdeithas yr Awduron – Cymru
4.         Yr Athro Kirsti Bohata – ar ran Cymdeithas Llên Saesneg Cymru (Cyd-gadeirydd)
5.         Yr Athro Matthew Jarvis – ar ran Cymdeithas Llên Saesneg Cymru (Cyd-gadeirydd)
6.         Cymdeithas yr Iaith Gymraeg
7.         Menna Elfyn – ar ran Wales PEN Cymru (Llywydd)
8.         Yr Athro Emeritws Charlotte Williams OBE
9.         Patrick McGuinness
10.       Laura McAllister
11.       Gillian Clarke
12.       Jay Griffiths
13.       Rachel Trezise
14.       Yr Athro Richard Wyn Jones
15.       Eric Ngalle Charles
16.       Jon Gower
17.       Gwyneth Lewis
18.       Niall Griffiths
19.       Ifor ap Glyn
20.       Andrew Green (Cadeirydd New Welsh Review)
21.       Dr Daryl Leeworthy
22.       Amy Wack
23.       Owen Shiers (cerddor)
24.       Katell Keineg
25.       Pascale Petit FRSL
26.       Mabli Siriol Jones
27.       Dr Dan Evans
28.       Dr Kieron Smith
29.       Steve Griffiths
30.       Leanne Wood
31.       Pamela Petro
32.       Norena Shopland
33.       Dr Peter Wakelin
34.       Nia Davies (bardd)
35.       Eluned Gramich
36.       Sophie McKeand
37.       Iwan Bala
38.       Peter Stevenson
39.       Dr Mary-Ann Constantine
40.       Gareth Leaman
41.       Polly Manning
42.       Yr Athro Tony Curtis
43.       Helen Sandler
44.       Alison Lochhead
45.       Nigel Jarrett
46.       Mike Joseph
47.       Rebecca Roberts
48.       Taz Rahman
49.       Siân Melangell Dafydd
50.       John Geraint
51.       Shara Atashi
52.       Myfanwy Alexander
53.       Bethan Miles
54.       Sam Adams
55.       Sharon Morgan
56.       Francesca Rhydderch
57.       John Barnie
58.       Carole Hailey
59.       Lottie Williams
60.       Richard John Parfitt
61.       Ifor Thomas
62.       Peter Finch
63.       Steve Andrews
64.       John Osmond
65.       James Stewart
66.       Wiliam Owen Roberts
67.       Dr Gemma June Howell
68.       Sarah Tanburn
69.       Greg Hill
70.       Jane Fraser
71.       Rebecca George
72.       Mike McNamara
73.       Gaynor Funnell
74.       Geraint Lewis
75.       Nick Murray
76.       Samantha Wynne-Rhydderch
77.       Gorwel Owen
78.       Anthony Evans (arlunydd)
79.       Yr Athro Emeritws David Ian Rabey MA MA PhD CCDC/FLSW
80.       Colin Thomas
81.       Sara Penrhyn Jones
82.       Darren Chetty
83.       Adam Johannes
84.       Dylan Huw
85.       Harriet Protheroe-Soltani
86.       Emily Blewitt
87.       Harry Waveney
88.       Charmian Savill
89.       Huw Williams, Deon y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd
90.       Stevie Davies
91.       Bridget Keehan
92.       Frances Williams
93.       Ant Evans
94.       Katie Gramich
95.       Michelle Deininger
96.       Steven Lovatt
97.       Yr Athro Paul O'Leary, FLSW, FRHistS
98.       Jonathan Edwards (bardd)
99.       Yr Athro Deri Tomos
100.     Catrin Evans
101.     Catrin Elis Williams
102.     Elinor Wyn Reynolds
103.     Dr Elen Ifan
104.     Aled Islwyn
105.     Geraint Lewis (cyfansoddwr)
106.     Elin Llwyd Morgan
107.     Tracey Rhys
108.     Dr Tim Rhys (dramodydd a darlithydd ysgrifennu creadigol)
109.     Rita Singer
110.     Kaite O’Reilly
111.     Adam Coward
112.     Iestyn Tyne
113.     Robert Minhinnick
114.     Aled Llion Jones
115.     T. Robin Chapman
116.     Rhianwen Daniel
117.     Carl Morris
118.     Steve Thompson
119.     Mark S. Redfern
120.     Selwyn Williams, Cwmni Bro Ffestiniog
121.     Martin Wright
122.     Morgan Owen
123.     Aidan Byrne
124.     Rhian E. Jones
125.     Kathryn Gray
126.     Ben Gwalchmai
127.     Lynne Rees
128.     Dr Sioned Pearce
129.     Meic Birtwistle
130.     Yr Athro Jeremy Hooker FRSL
131.     Joshua Jones
132.     Dr Nia Edwards-Behi
133.     Dr Carrie Etter
134.     Vicky Morris
135.     Dr Sam Christie
136.     Ed Garland
137.     Jim Pratt MBE
138.     Graham Mort
139.     Paul Cabuts
140.     Gwen Davies
141.     Ness Owen
142.     Richard Gwyn
143.     Jo Dahn
144.     Katherine Cleaver
145.     Mark Blayney
146.     Russell Todd
147.     Liz Jones
148.     Dr Ceri Thomas (arlunydd, hanesydd celf, curadur)
149.     Yr Athro Marged Haycock
150.     Mike Jenkins
151.     Claire Vaughan
152.     Topher Mills
153.     Aled Gruffudd Jones
154.     Yasmin Ali
155.     John Sam Jones
156.     Patrick Jones – bardd a dramodydd
157.     Alun Gibbard
158.     Jamie Woods
159.     Steph Power
160.     Bethany Handley
161.     Pete Telfer
162.     Rhys Owain Williams
163.     Dr Aidan Byrne – Prifysgol Wolverhampton, aelod Cymdeithas Llên Saesneg Cymru
164.     Angharad Penrhyn Jones
165.     Morgan Davies
166.     Emlyn Phillips MSc MBA
167.     Thomas Morris
168.     Kristian Evans
169.     Emma Clark - Buzz Magazine
170.     Kate North
171.     Gwenno Robinson
172.     Mair Jones
173.     Professor Helen Fulton FSA FLSW
174.     Anthony Shapland
175.     Dr Rhea Seren Phillips
176.     Rhiannon Lewis
177.     Ant Heald
178.     Fflur Dafydd
179.     Yasmin Begum

 ___________________________________________